Ein Gwaith
Hyfforddiant Lletygarwch
Rydym yn cynnal cyrsiau hyfforddi archrededig ar gyfer y diwydiant lletygarwch.
Mae Rhedeg Lle Bwyd yn gwrs cynhwysfawr a gynhelir dros 2 ddiwrnod argyfer pobl sy’n gweithio yn y diwydiant arlwyo a thwristiaeth – yn enwedig pobl sy’n rhedeg caffis, ystafelloedd te, bwytai, tafarndai, gwestai, atyniadau i ymwelwyr ac ati. Gall cwmnïau bwyd a diod hefyd elwa o’r cwrs hwn.
Mae cwrs Sut i Arddangos a Gwerthu Bwyd yn Effeithiol yn gwrs un diwrnod a nod y cwrs yw galluogi perchnogion busnesau bach bwyd i gael y sgiliau a’r wybodaeth sylfaenol i arddangos eu cynnyrch bwyd yn effeithiol a dangos y ffordd orau i fabwysiadu tactegau gwerthu ar yr arddangosfeydd.
Nod cwrs Defnyddio’r iaith Gymraeg gyda bwyd a diod yw rhoi hyder i berchnogion lletygarwch a busnes bwd i ddenyddio’r iaith Gymraeg mewn ffyrdd sy’n gwella profiad yr ymwelydd a chreu naws Cymreig i’r busnes.
Gallwn hefyd gynnal cyrsiau at eich dibenion arbennig chi, felly cysylltwch â ni i gael sgwrs i weld sut y gallwn ni eich helpu.
Rhedeg Lle Bwyd
Mae “Rhedeg Lle Bwyd” yn gwrs cynhwysfawr a gynhelir dros 2 ddiwrnod ar gyfer pobl sy’n gweithio yn y diwydiant arlwyo a thwristiaeth – yn enwedig pobl sy’n rhedeg caffis, ystafelloedd te, bwytai, tafarndai, gwestai, atyniadau i ymwelwyr ac ati. Gall cwmnïau bwyd a diod hefyd elwa o’r cwrs hwn.
Nod y cwrs yw i’ch galluogi i:
- gymryd y cyfle i edrych ar sut yr ydych yn gweithredu ar hyn o bryd
- adnabod cryfderau, gwendidau, cyfleoedd a bygythiadau’r busnes
- amlygu ble a sut y gellir gwneud gwelliannau
- gynyddu maint elw a phroffidioldeb
Arweinir y cwrs gan Nerys Howell, ymgynghorydd bwyd gyda dros 30 o flynyddoedd o brofiad yn y diwydiant bwyd a diod. Bydd y ddau ddiwrnod yn cynnwys nifer o weithgareddau ymarferol gan alluogi’r cyfranwyr i nabod ei gilydd ac atgyfnerthu yr hyn y maent yn eu dysgu.
“Mae’n ysgogol, ymarferol ac addysgiadol iawn.”
Rosie Glover, Chef Glynhir Estate
“Wnes i fwynhau yn fawr. Nes i ddysgu cymaint. Teimlo fy mod wedi adfywio i gyd. Diolch.”
Angharad Lane, Gelli Fawr, Pembrokeshire
Cynnwys
Diwrnod 1
Camau syml i sicrhau llwyddiant
Cydymffurfio, cynllunio busnes, costio a rheoli ariannol
Sut i ddefnyddio dadansoddiad SWOT, staffio a recriwtio
Dod i nabod a chyrraedd y farchnad
Marchnata, hyrwyddo a brandio
Diwrnod 2
Profiad unigryw
Pwyntiau gwerthu unigryw, manteision cynnig gwahanol
Cynllunio a datblygu bwydlenni, prisio a phrynu
Rheoli ansawdd
Cael y gorau o’ch staff
Hyfforddiant staff a gwasanaeth cwsmer
Sut i ddelio gyda chwynion gan gwsmeriaid
Tueddiadau diweddaraf o fewn y sector
“Wedi’i gyflwyno’n hyfryd gyda hiwmor a phawb yn cyfrannu’n dda.”
Jackie Watson, Hills Farm Stables, Laugharne
Am ragor o wybodaeth, ebostiwchnerys@howelfood.co.uk neu ffoniwch 029 2022 0822.
Mae’r hyfforddiant hwn yn cael ei gyflwyno mewn partneriaeth â Phrosiect Sgiliau Bwyd a Diod Cymru sy’n cael ei gefnogi gan Raglen y Gronfa Blaenoriaethau Sector gyda chyllid gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF) a weinyddir gan Lywodraeth Cymru. Partneriaid y prosiect yw: Lantra CSS * – Diwydiannau’r Tir a’r Amgylchedd, Improve Ltd, CSS* – Gweithgynhyrchu Bwyd a Diod, People 1st Cymru CSS* – Lletygarwch a Thwristiaeth.
(*Cyngor Sgiliau Sector)
Sut i Arddangos a Gwerthu Bwyd yn Effeithiol
Rhai ffeithiau:
- Mae cwsmeriaid yn siopa gyda’u llygaid
- Mae’r argraff gyntaf yn argraff barhaol
A yw eich deunydd lapio ac arddangosfeydd yn sefyll allan ac yn denu cwsmeriaid?
A yw eich staff yn groesawgar, yn wybodus am y cynnych, yn cyflogu tactegau gwerthu effeithiol ac yn gallu denu cwsmeriaid?
Os ydych yn berchen ar siop fferm, deli bwyd a diod neu gynhyrchydd sy’n gwerthu yn uniongyrchol i’r cyhoedd, gallai’r cwrs undydd achrededig hwn gynyddu eich gwerthiant. Nod y cwrs yw galluogi perchnogion busnesau bach bwyd i gael y sgiliau a’r wybodaeth sylfaenol i arddangos eu cynnyrch bwyd yn effeithiol a dangos y ffordd orau i fabwysiadu tactegau gwerthu ar yr arddangosfeydd.
Byddwn yn edrych ar frandio, pecynnu, y defnydd o arwyddion, gwneud y mwyaf o’r gofod sydd ar gael a sut i greu arddangosfeydd trawiadol.
Cysylltwch â Nerys Howell ar 029 2022 0822 neu nerys@howelfood.co.uk i gofrestru ac am fwy o wybodaeth.
Defnyddio’r Iaith Gymraeg gyda Bwyd a Diod
Yn ôl Sally Shalam, awdur y Guardian Travel, mae ymwelwyr y dyddiau hyn yn chwilio am brofiad dilys, maent yn awyddus i aros fel ‘un o’r trigolion lleol’ a chael profiad o ddiwylliant a threftadaeth Cymru drwy fod yn rhan o gyfrinachau arbennig. Un o’r ‘cyfrinachau gorau’ hyn a’r un sy’n diffinio Cymru fel lle arbennig i aros yw’r iaith Gymraeg.
Mae dwyieithrwydd a gwerthfawrogiad o wahanol ddiwylliannau yn rhan hanfodol o strategaethau marchnata cwmnïau llwyddiannus ar draws y byd. Mae’n atgyfnerthu brand y busnes ac yn ei gwneud yn fwy deuniadol i drigoloion lleol ac ymwelwyr fel ei gilydd ac mae hefyd yn arf marchnata hanfodol ar gyfer datblygiad economaidd.
Nod y cwrs achrededig undydd yw rhoi’r hyder i berchnogion lletygarwch a busnes bwyd i ddefnyddio’r iaith Gymraeg mewn ffyrdd sy’n gwella profiad yr ymwelydd a chreu naws Cymreig i’r busnes.
Mae’r cwrs yn cynnwys:
- hanes yr iaith a sut rydym yn ei defnyddio heddiw
- manteision dwyieithrwydd i’ch busnes
- sut i ddefnyddio’r iaith wrth gyfathrebu ar lafar
- sut i ddefnyddio’r iaith ar gyfryngau cymdeithasol, deunydd marchnata ac arwyddion.
- defnyddio’r Gymraeg ar fwydlenni
Cysylltwch â Nerys Howell ar 029 2022 0822 neu â nerys@howelfood.co.uk am fwy o fanylion ac i gofrestru eich diddordeb.