Ein Gwaith
Gwasanaeth Ymgynghori ar Fwyd
Canolfan Mileniwm Cymru yw prif atyniad Cymru i ymwelwyr ac mae’n un o’r deg prif atyniad diwyllannol yn y Deyrnas Unedig.
Cawsom gomisiwn i gydweithio â’r Ganolfan i ddatblygu’r bwyd a gynigir ac aethom ati i ganfod cynnyrch a chyflenwyr addas o Gymru fel y gellir ei chydnabod yn bartner Gwir Flas. Gwnaethom hyn trwy drefnu cyfres o ddigwyddiadau Cwrdd â’r Cynhyrchydd a chynnig cyngor ar strategaeth hyrwyddo a marchnata. Bu hyn yn lwyddiant mawr ac, o ganlyniad i’r gwaith, mae’r Ganolfan yn prynu dros 80% o’u bwydydd gan gwmnïau o Gymru, llawer ohonynt o fewn 50 milltir i Gaerdydd.