Ein Gwaith
Dylunio Bwyd ac Economegwyr Cartref
Fe gawson ni wythnos llawn hwyl, creadigrwydd a thatws wrth gydweithio â thîm marchnata Puffin Potatoes a’u brand, Blas y Tir, i ddatblygu nifer o gardiau ryseitiau i’w dosbarthu mewn archfarchnadoedd. Aethon ni ati’n frwd i ddatblygu saith o ryseitiau cyffrous newydd yn defnyddio tatws ac yna’u gosod yn barod i gael tynnu eu lluniau.
Gair bach i ddweud diolch am eich holl waith caled yn paratoi’r ryseitiau hyn i ni. Rydyn ni wedi’n plesio’n fawr â’r canlyniadau!