Ein Gwaith
Datblygu Bwydlenni
Yn ôl rhai, Gwobrau’r Gwir Flas yw Oscars diwydiant bwyd Cymru ac, yn wir, dyma yw uchafbwynt y flwyddyn i lawer o gynhyrchwyr bwyd a diod Cymru. Bwyd a diod yw canolbwynt y noson i’r 500 o wahoddedigion eiddgar. Buom yn cydweithio’n agos âr cwmni arlwyo, gan gynnig cyngor a datblygu bwydled greadigol a chytbwys yn cyflwyno cynnyrch gorau Cymru. Ar y fwydlen, roedd seigiau blasus fel Veloute tatws a chennin Puffin gyda hadog melyn Black Mountains ac wyau soflieir, lwyn cig carw Brycheiniog wedi’i mwydo mewn jin eirin tagu Condessa, a phentwr o meringues gydag afalau wedi’u carameleiddiio, cnau Ffrengig wedi’u tostio a hufen wisgi.