Potiau cranc gwahanol! Gallwch wneud y cwrs cyntaf hwn ymlaen llaw er mwyn mwynhau’r pryd yn well. Mae’n dda gyda digonedd o fara surdoes wedi’i dostio a gwin gwyn ffres.
Digon i: 4-6 Paratoi: 10 minutes
Cynhwysion
½ llond llwy de hadau ffenigl sych
½ tshili bach wedi sychu
½llond llwy de pergibyn (mace) mâl
½ llond llwy de nytmeg mâl
1 cranc parod
Sudd a chroen 1 lemon
150g menyn Cymreig
Halen a phupur
Dull
Malwch yr hadau ffenigl a’r tshili â phestl a breuan.
Rhowch y cranc mewn dysgl fawr gyda’r ffenigl, tshili, pergibyn, nytmeg a chroen lemon a 75g o fenyn. Cymysgwch i gyfuno’r holl gynhwysion. Ychwanegwch sudd lemon at eich dant a’i sesno’n dda.
Codwch y gymysgedd cranc i ddysglau ramekin neu ddysglau bach bas a’i fflatio.
Toddwch weddill y menyn a’i ddodi dros y cranc. Rhowch y dysglau yn yr oergell i setio.
Gweinwch gyda bara surdoes sbelt organic wedi’i dostio.