Cynhwysion
300g blawd gwenith cyflawn Bacheldre, Melin Talgarth, Felin Ganol neu debyg
200g blawd gwyn cryf Bacheldre neu flawd tebyg
1 x pecyn 7g burum sydyn
1 llwy de halen
300ml dwr llugoer
1 llwy de mêl Cymreig ac 1 llwy fwrdd i roi sglein
50g llugaeron sych
75g cnau pecan, wedi’u torri’n fras
1 llwy fwrdd ceirch wedi’u rholio i roi dros y dorth
Dull
Cynheswch y ffwrn i 230?C/ nwy 8.
Mewn dysgl fawr, cymysgwch y ddau fath o flawd, yr halen a’r burum. Trowch y d?r a’r mêl i mewn iddynt a’u cymysgu’n dda i wneud toes meddal. Tylinwch yn dda am 10 munud.
Ychwanegwch y llugaeron a’r cnau pecan a dal ati i dylino nes eu bod wedi’u gwasgaru’n dda. Siapiwch y toes a’i roi ar dun pobi a haen denau o flawd drosto, rhowch liain sychu llestri llaith drosto a’i adael mewn lle cynnes am ryw awr nes y bydd wedi dyblu yn ei faint.
Pobwch mewn ffwrn gynnes am ryw 30-35 munud. Tynnwch o’r ffwrn a’i gadael i oeri ar rac weiren.
Cynheswch y mêl yn ofalus a’i frwsio dros y dorth. Taenwch y ceirch drosti.