Dyma amrywiad ar dwmplen afalau traddodiadol, sef yr arfer o lenwi afalau coginio gyda siwgr a ffrwythau sych, cyn eu gorchuddio â chrwst.
Ar gyfer 4
Cynhwysion
4 afal bwyta canolig eu maint, fel Cox neu Braeburn
2 lwy fwrdd o jam sinsir
1 llwy fwrdd o wisgi
300g o grwst pwff wedi’i rowlio’n barod
1 ŵy, wedi’i guro â llwy fwrdd o ddŵr, ar gyfer brwsio
1 llwy fwrdd o siwgr Demerara
200ml o laeth cyflawn
200ml o hufen sengl
4 melynwy
60g o siwgr mân
2 lwy fwrdd o wisgi
Dull
Cynheswch y ffwrn i 200C/nwy 6, a rhowch bapur gwrthsaim mewn tun pobi.
Pliciwch yr afalau a thynnu’r rhan fwyaf o’r canol, gan adael darn bach ar y gwaelod.
Cymysgwch y wisgi a’r jam sinsir, a’i roi ym mhob afal.
Torrwch y crwst pwff yn stribedi hir, 1cm o led. Gan ddechrau ar waelod pob afal, lapiwch bob un â’r crwst, fel bod y crwst yn gorgyffwrdd fymryn wrth iddo droelli o amgylch yr afal.
Brwsiwch y crwst â’r ŵy wedi’i guro, a thaenwch y siwgr yn ysgafn dros y cyfan. Rhowch yr afalau yn y tun pobi parod, a’u rhoi yn y ffwrn am 15 munud. Ar ôl hyn, trowch wres y ffwrn i lawr i 180C/nwy 5, a phobi’r afalau am 10 munud arall, tan y bydd y crwst yn euraidd.
I wneud y cwstard, cynheswch y llaeth a’r hufen mewn sosban dda, hyd nes eu bod ar fin berwi. Yn y cyfamser, curwch y melynwy a’r siwgr ynghyd tan y bydd y lliw’n goleuo. Tywalltwch hwn dros y llaeth cynnes, a chymysgu’r cyfan yn dda.
Rhowch y cymysgedd mewn sosban lân, a dod â’r cyfan i fudferwi’n araf, gan ei droi â llwy bren drwy’r amser tan y bydd y cwstard wedi twchu ac yn glynu wrth gefn y llwy. Peidiwch â gadael y cwstard i ferwi, gan y gallai hynny wneud iddo geulo. Tynnwch y sosban oddi ar y gwres ac ychwanegu’r wisgi. Gweiniwch y cwstard gyda’r afalau pob.