Mae rhain yn dda i frecwast, brinio neu de. Gallwch eu bwyta gyda chig moch crisbyn ac ychydig o fêl drostynt neu gyda wyau wedi’u sgramblo ac eog mwg. Dewiswch chi!
Digon i: 8 Paratoi: 20 munud Coginio: 20 munud
Cynhwysion
450g tatws blawdiog, e.e. Puffin Maris Piper, wedi’u plicio a’u chwarteru
25g menyn Cymreig
75g blawd plaen
Olew llysiau
Dull
Berwch y tatws mewn dwr a halen am 15 munud neu nes eu bod yn dyner. Draeniwch a’u stwnsho. Curwch y menyn a’r blawd i mewn â llwy bren. Rhowch y tatws ar fwrdd blawdiog a’u tylino’n ysgafn. Rhowch i oeri am awr.
Rholiwch a thorri 8 sgon ohono â thorrwr plaen 7cm.
Cynheswch faen pobi neu padell ffrio drom a’i iro. Coginiwch y sgons am ryw 4-5 munud ar bob ochr nes eu bod yn euraid.
Gweinwch nhw’n gynnes gyda menyn Cymreig a’ch hoff jam.